Gwyliwch y fideo isod er mwyn deall beth yw polyhedronau.
Termau pwysig
- Siapiau 3D: mae gan siapiau tri dimensiwn fesur mewn tri chyfeiriad -hyd, lled ac uchder (neu ddyfnder).Mae ciwboid, silindr a sffêr yn enghreifftiau ohonyn nhw. Mae siapiau tri dimensiwn yn gallu bod yn solet neu’n wag.
- Polyhedron: siâp 3-D sydd ag wynebau fflat
- Prism: siâp 3-D sydd â’r un croesdoriad ar draws ei hyd i gyd.
- Prism trionglog: siâp 3-D sydd ag wynebau trionglog o’r un maint ar ei ddau ben
- Pyramid: mae pyramidiau yn siapiau tri dimensiwn sydd â pholygon yn sylfaen iddyn nhw. Hefyd mae ganddyn nhw wynebau trionglog sy’n cyfarfod mewn un fertig.
- Tetrahedron: yr enw ar byramid â sylfaen trionglog. Mae pyramidiau enwog yr Aifft yn enghreifftiau o byramidiau â sylfaen sgwâr.
Defnyddiwch y cardiau fflach isod i ddysgu'r termau pwysig!
Defnyddiwch y gêm isod er mwyn profi eich hun!
No comments:
Post a Comment