22.9.20

LLUNIO RHWYDI

 Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am sut i LUNIO rhwydi e.e. ar bapur sgwâr

16.9.20

RHWYDI

Beth yw rhwyd ar gyfer solid? Sawl rhwyd gwahanol sydd ar gyfer unrhyw giwb? A oes modd llunio rhwydi ar gyfer solidau eraill? (Lefel 5)

CYLCHOEDD!

 Disgwylir i chi ddeall termau pwysig am gylchoedd, gan gynnwys:


1. Cylch

2. Cylchyn

3. Cylchedd

4. Diamedr

5. Radiws


Gwyliwch y fideo isod i ddeall mwy amdanynt!

14.9.20

SIAPIAU CYFATH

Cofiwch fod 2 beth pwysig am siapiau cyfath, sef maent yr:

1. yr un SIÂP
2. yr un MAINT ('size')

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy.

7.9.20

Beth yw POLYHEDRONAU? (3D)

Gwyliwch y fideo isod er mwyn deall beth yw polyhedronau

Termau pwysig

  • Siapiau 3D: mae gan siapiau tri dimensiwn fesur mewn tri chyfeiriad -hyd, lled ac uchder (neu ddyfnder).Mae ciwboid, silindr a sffêr yn enghreifftiau ohonyn nhw. Mae siapiau tri dimensiwn yn gallu bod yn solet neu’n wag.
  • Polyhedron: siâp 3-D sydd ag wynebau fflat
  • Prism: siâp 3-D sydd â’r un croesdoriad ar draws ei hyd i gyd. 
  • Prism trionglog: siâp 3-D sydd ag wynebau trionglog o’r un maint ar ei ddau ben
  • Pyramid: mae pyramidiau yn siapiau tri dimensiwn sydd â pholygon yn sylfaen iddyn nhw. Hefyd mae ganddyn nhw wynebau trionglog sy’n cyfarfod mewn un fertig.
  • Tetrahedron: yr enw ar byramid â sylfaen trionglog. Mae pyramidiau enwog yr Aifft yn enghreifftiau o byramidiau â sylfaen sgwâr.
Defnyddiwch y cardiau fflach isod i ddysgu'r termau pwysig!


Defnyddiwch y gêm isod er mwyn profi eich hun!


Rhowch gynnig ar y gêm isod er mwyn dysgu sut i sillafu enwau'r siapiau!


SIAPIAU 2D & POLYGONAU

 POLYGONAU

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu enwau'r polygonau cyffredin rhwng 3 a 10 ochr!

POLYGON = siâp dau ddimensiwn (2D) sydd a’i ochrau i gyd yn llinellau syth.

 

Rhowch gynnig ar y gêm isod er mwyn dysgu enwau'r siapiau 2D!


Rhowch gynnig ar y gêm isod er mwyn profi eich hun gyda'r siapiau 2D!