9.11.20
Cofio symbolau 'mwy na' a 'llai na'
15.10.20
Datrys Hafaliadau 2 Gam (dull cloriannu)
Mae'r dull cloriannu o ddatrys hafaliad yn defnyddio'r ffaith ganlynol:
Mae hafaliad yn parhau yn wir os yw’r un rhif yn cael ei adio at (neu ei dynnu o) bob ochr neu os yw’r ddwy ochr yn cael eu lluosi neu eu rhannu â’r un rhif. Mae'r fideo yma'n dangos sut i ddefnyddio'r dull cloriannu i ddatrys yr hafaliadau
3x + 5 = 29; 2x – 6 = 26; 5x + 2 = 2x + 29; 7x – 3 = 5x + 19. (Lefel 6)
Datrys Hafaliadau Syml
Sut ydych yn datrys hafaliadau syml megis x + 3 = 9; x – 4 = 6; 4y = 24; neu z ÷ 2 = 4? (Lefel 6)
23.9.20
Creu mandala!
Eich her fel gwaith cartref yr wythnos hon yw i greu mandala (tudalen 16 o'ch pecyn). Dyma fideo i'ch helpu:
22.9.20
16.9.20
RHWYDI
Beth yw rhwyd ar gyfer solid? Sawl rhwyd gwahanol sydd ar gyfer unrhyw giwb? A oes modd llunio rhwydi ar gyfer solidau eraill? (Lefel 5)
CYLCHOEDD!
Disgwylir i chi ddeall termau pwysig am gylchoedd, gan gynnwys:
1. Cylch
2. Cylchyn
3. Cylchedd
4. Diamedr
5. Radiws
Gwyliwch y fideo isod i ddeall mwy amdanynt!
14.9.20
SIAPIAU CYFATH
7.9.20
Beth yw POLYHEDRONAU? (3D)
Gwyliwch y fideo isod er mwyn deall beth yw polyhedronau.
Termau pwysig
- Siapiau 3D: mae gan siapiau tri dimensiwn fesur mewn tri chyfeiriad -hyd, lled ac uchder (neu ddyfnder).Mae ciwboid, silindr a sffêr yn enghreifftiau ohonyn nhw. Mae siapiau tri dimensiwn yn gallu bod yn solet neu’n wag.
- Polyhedron: siâp 3-D sydd ag wynebau fflat
- Prism: siâp 3-D sydd â’r un croesdoriad ar draws ei hyd i gyd.
- Prism trionglog: siâp 3-D sydd ag wynebau trionglog o’r un maint ar ei ddau ben
- Pyramid: mae pyramidiau yn siapiau tri dimensiwn sydd â pholygon yn sylfaen iddyn nhw. Hefyd mae ganddyn nhw wynebau trionglog sy’n cyfarfod mewn un fertig.
- Tetrahedron: yr enw ar byramid â sylfaen trionglog. Mae pyramidiau enwog yr Aifft yn enghreifftiau o byramidiau â sylfaen sgwâr.
SIAPIAU 2D & POLYGONAU
POLYGONAU
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu enwau'r polygonau cyffredin rhwng 3 a 10 ochr!POLYGON = siâp dau ddimensiwn (2D) sydd a’i ochrau i gyd yn llinellau syth.
